Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol a Gwaith Achos ar gyfer Llyr Gruffydd AS

Cyhoeddwyd 27/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/08/2026

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol a Gwaith Achos ar gyfer Llyr Gruffydd AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol yr AS yn Rhuthun
Cyfeirnod: MBS-161-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Cynorthwyo’r Aelod i adeiladu a chynnal perthynas gref gydag ystod eang o randdeiliaid yn yr etholaeth (yn cynnwys cyrff cyhoeddus, busnesau a mudiadau lleol) gan gefnogi eu gwaith ac ymgyrchoedd lleol.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy’n berthnasol i’r ardal leol.
  • Gwybodaeth am arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
  • Profiad o roi mesurau diogelu cymesur ar waith mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Carys.Lewis@senedd.cymru 

I wneud cais, anfonwch eich cais Carys.Lewis@senedd.cymru at erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 20 Medi 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: 25 Medi 2026