Swyddog Etholaeth ar gyfer Elin Jones AS
Ystod cyflog (pro rata): £32,351 - £45,380
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 32 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 10 mis, gyda’r posibilrwydd o’i wneud yn barhaol yn ddibynnol ar ganlyniad etholiad 2026.
Lleoliad: 32 Heol y Wig, Aberystwyth, SY23 2LN, gyda ychydig o weithio o gartref yn bosib.
Cyfeirnod: MBS-027-25
Diben y swydd:
Bydd y Swyddog Etholaeth yn cynorthwyo’r Aelod fel rhan allweddol o'r tîm. Yn ogystal â chefnogi’r aelod gyda trefnu dyddiadur a mynychu cyfarfodydd gyda’r Aelod, bydd y Swyddog Etholaeth hefyd yn cynorthwyo’r swyddfa gyda gwaith achos, cyfathrebu ac ymateb i ymholiadau etholwyr i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr.
- Cynorthwyo’r Aelod gyda’i dyddiadur, gan drefnu cyfarfodydd a paratoi gwybodaeth i’r Aelod o flaen llaw, yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo’r Gweithiwr Achos i gynnal y system gwaith achos gan sicrhau bod pob achos yn cael ei logio; monitro'r cynnydd a wneir a cynorthwyo’r Gweithiwr Achos i sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodir yn cael eu cymryd.
- Drafftio llythyron, nodiadau briffio ac unrhyw ddogfennau eraill ar ystod o faterion ar gais yr Aelod o’r Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio ac ysgrifennu i safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad o weithio mewn awyrgylch swyddfa prysur, gyda sgiliau cyfathrebu clir a sgiliau cydweithio da.
- Gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt
- Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gyfwerth mewn Gweinyddiaeth Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol.