Swyddog Gwaith Seneddol a Chyfathrebu i Rhun ap Iorwerth AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 - £40,321
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: Hyd at 37 awr (bydden ni’n ystyried ceisiadau ar gyfer swydd rhan amser)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru, Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-003-25
Diben y swydd: Gwneud gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar gais yr Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Cefnogi’r Aelod ym mhob agwedd o waith Seneddol – paratoi areithiau, ymchwilio, cyflwyno cwestiynau ysgrifennedig, ysgrifennu briffs, draffito llythyrau at y Llywodraeth, ymgysylltu gyda rhanddeiliaid, paratoi am bwyllgorau ayyb.
- Monitro blaenraglen y Senedd a chwilio am gyfleon am ymyrriadau gwleidyddol.
- Cyfrifoldeb am drefniadau swyddfa’r Senedd, ac yn atebol i Reolwr y Swyddfa Etholaeth mewn perthynas â staffio â’r gwaith etholaeth.
- Cefnogi tim Swyddfa’r Etholaeth gyda gwaith achos fel bo’r angen.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, yn y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu yn y sector cysylltiadau cyhoeddus.
- Dealltwriaeth o’r angen i adlewyrchu barn yr AS mewn ffordd sy’n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw’n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus nac yn ddifrïol.
- Dealltwriaeth o drechu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan, ac ymrwymiad iddynt.
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes, pynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol