Cyfle Gwaith: Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Cyhoeddwyd 02/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2026

Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu swyddfa etholaethol Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-032-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelodau) yn ymgymryd â gwaith ymchwil polisi manwl, yn drafftio papurau briffio ac yn cefnogi gwaith deddfwriaethol. Bydd yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion polisi, yn helpu i lunio strategaethau gwleidyddol, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r Llywodraeth.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
  • Cysylltu â melinau trafod, elusennau, grwpiau eiriolaeth a busnesau i gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr.
  • Gall oruchwylio neu gydlynu staff ymchwil iau neu interniaid i sicrhau allbwn ymchwil o safon.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
  • Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.
  • Dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol a phrosesau’r Senedd gan gynnwys gwaith llunio polisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Yn dangos profiad amlwg o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith sy’n deillio o brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. gradd, NVQ neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Dafydd.TrystanDavies@senedd.cymru 

Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos. Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli.  Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod. 

Yn ogystal â Dafydd Trystan Davies yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth a all benodi i’r rôl hon yw: Zaynub Akbar, a Nick Carter 


Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026, 12yh (canol dydd)
Dyddiad cyfweliad: TBC