Jane Dodds AS

Jane Dodds AS

Cyfle Gwaith: Swyddog y Cyfyngau ar gyfer Jane Dodds AC

Cyhoeddwyd 20/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2025

 Swyddog y Cyfyngau ar gyfer Jane Dodds AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol tan 07 Ebrill 2026 
Lleoliad: Hybrid - Ty Hywel a Gweithio Gatref
Cyfeirnod: MBS-048-25

Diben y swydd: 

Gwneud gwaith ymchwil / gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar gais yr Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

  1. Sefydlu ystod eang o gysylltiadau o fewn y wasg, y cyfryngau darlledu ac ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd

  2. Ymchwilio, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau

  3. Cysylltu â’r Aelod o’r Senedd / rheolwr swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i’r cyfryngau

  4.  

    Nodi digwyddiadau sydd i ddod a allai roi cyfleoedd posibl i’r cyfryngau

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  •  Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, yn y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu yn y sector cysylltiadau cyhoeddus
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau gan gynnwys creu cynllun cyfathrebu
  • Dealltwriaeth o’r angen i adlewyrchu barn yr AS mewn ffordd sy’n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw’n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus nac yn ddifrïol
  • Dealltwriaeth o drechu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan, ac ymrwymiad iddynt

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Jane.Dodds@Senedd.Wales 

 


Dyddiad cau: 27 Hydref 2025, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau