Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Elfed Williams AS

Cyhoeddwyd 16/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2026

 Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Elfed Williams AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873 

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos 
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Llandudno 
Cyfeirnod: MBS-181-26 

Prif ddyletswyddau:

  • Nodi a chefnogi ymgyrchoedd, mentrau ac achosion lleol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Aelod. 
  • Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog. 
  • Cefnogi a chynghori'r Aelod  i gydymffurfio â'i rwymedigaethau sy'n ymwneud â diogelu data a diogelwch gwybodaeth, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol. 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth o faterion cyfoes a materion sy'n berthnasol i Gymru a'r ardal leol. 
  •  Gwybodaeth am sut i gyfathrebu'n broffesiynol ag ystod eang o randdeiliaid.  
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o'r gyfraith ac arfer da mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor gan berson cymwys. 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Elfed.Williams-AS@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Elfed.Williams-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 21 Hydref 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC