Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Zaynub Akbar AS

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2026

Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Zaynub Akbar AS 

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 22.2 (3 diwrnod yr wythnos)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-049-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau’r berthynas rhwng y blaid a'r bobl y mae'n eu cynrychioli, gan weithio'n rhagweithiol o fewn cymunedau i gynyddu gwelededd, ymddiriedaeth a dealltwriaeth o faterion lleol. Mae'r rôl yn gofyn am ddull sy'n canolbwyntio ar y person, a bydd angen treulio cryn dipyn o amser allan yn y gymuned, yn creu cysylltiadau, datblygu partneriaethau ac annog ymgysylltu ystyrlon ar draws yr etholaeth gyfan a'i chymunedau i lywio gwaith yr Aelodau.

Prif ddyletswyddau:

Ymgysylltu â’r gymuned
•    Treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn y gwaith allan yn yr etholaeth, gan ymgysylltu'n rhagweithiol ag amrywiaeth o bobl a chymunedau.
•    Cynllunio a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau gwrando, stondinau stryd, boreau coffi, cymorthfeydd a sesiynau bord gron.
•    Sicrhau bod gweithgareddau allgymorth yn cyrraedd pob cymuned, gan gynnwys y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol neu sydd wedi ymddieithrio o fywyd gwleidyddol.
•    Gweithio gyda'r staff cyfathrebu, staff gwaith achos a'r tîm ehangach i gydweithio a chydlynu gwaith.
Rheoli perthnasoedd
•    Datblygu a chynnal map ar draws yr etholaeth o gysylltiadau cymunedol, sefydliadau, grwpiau ffydd, cymdeithasau trigolion a dylanwadwyr allweddol.
•    Meithrin perthnasoedd dibynadwy gydag arweinwyr cymunedol a sefydliadau ar lawr gwlad.
•    Gwneud gwaith dilynol mewn da bryd mewn perthynas â sgyrsiau, materion gwaith achos a chyfarfodydd cychwynnol.
•    Cofnodi’r materion, y pryderon a’r cyfleoedd a godir gan y gymuned a’u rhannu â chynrychiolwyr etholedig a’r tîm ehangach.
•    Cynnal cofnodion cywir, sy'n cydymffurfio â GDPR, o gysylltiadau a rhyngweithiadau.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Gallu i ymgysylltu'n hyderus a gweithio ar y cyd ag unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau, sefydliadau ffydd, elusennau a rhanddeiliaid lleol er enghraifft.
  • Sgiliau gwrando cryf gyda'r gallu i nodi pryderon a chyfleoedd cymunedol.
  • Medrus o ran rhwydweithio a datblygu perthnasoedd hirdymor ar draws cymunedau amrywiol.
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig sydd wedi’u datblygu i raddau da.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Yn dangos profiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith sy’n deillio o brofiad gwaith perthnasol;
  • a/neu gymhwyster galwedigaethol, er enghraifft, NVQ neu gymhwyster cyfatebol mewn datblygu cymunedol, cysylltiadau cyhoeddus, gwirfoddoli, cyfathrebu neu faes cysylltiedig.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Zaynub.Akbar-AS@Senedd.cymru .

Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd rhan-amser o 22.2 awr yr wythnos.  Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid/ei phlaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli.  Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod.
 
Yn ogystal â Zaynub Akbar, yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, a all benodi i’r rôl hon yw: Nick Carter a Dafydd Trystan Davies

 


Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026 - hanner dydd
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau