Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorwr Cyfathrebu ar gyfer Grŵp Reform DU
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-099-26
Diben y swydd:
Bydd Uwch-gynghorwr Cyfathrebu sy’n gweithio i Aelod o’r Senedd yn arbenigwr ym maes cyfathrebu ac yn meddu ar brofiad helaeth. Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o weithrediad y Senedd a chraffter gwleidyddol sylweddol. Bydd yn gyfrifol am arwain a gweithredu strategaeth gyfathrebu gyffredinol yr Aelod, gan sicrhau bod ei negeseuon yn glir, yn gyson, ac yn effeithiol ar draws pob platfform. Mae hon yn rôl strategol ac uwch, sy'n aml yn cynnwys cysylltu'n uniongyrchol â thîm cyfathrebu canolog y blaid a rheoli cysylltiadau proffil uchel â’r cyfryngau, gan gynnwys ymdrin ag argyfyngau.
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr i’r Grŵp sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol a buddiannau etholaethol y Plaid.
- Gweithredu fel prif lefarydd yr Arweinydd a’r Grŵp pan fo angen.
- Goruchwylio presenoldeb yr Arweinydd a’r Grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau cynnwys deniadol o ansawdd uchel.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Y gallu i roi hyfforddiant ar y cyfryngau a chyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar ddisgyblaeth negeseuon, strategaethau cyfathrebu.
- Arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso ym mhob sefyllfa sy’n berthnasol i waith cyfathrebu a rheolaeth o’r tîm.
- Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau a dealltwriaeth ohoni.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.