Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorwr Polisi ac Ymchwilydd ar gyfer Francesca O'Brien AS

Cyhoeddwyd 02/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/09/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorwr Polisi ac Ymchwilydd ar gyfer Francesca O'Brien AS

Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd ac Abertawe
Cyfeirnod: MBS-165-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y Senedd.
  • Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth. Gweithio gyda gwahanol ddeddfwrfeydd yn y DU.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
  • Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Francesca.OBrien-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Francesca.OBrien-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 9 Medi 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau