Janet Finch Saunders

Janet Finch Saunders

Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorydd i Janet Finch-Saunders AC

Cyhoeddwyd 24/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/03/2025

Uwch-gynghorydd i Janet Finch-Saunders AC

Ystod cyflog (pro rata): £40,845 - £49,752

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa etholath, Llandudno
Cyfeirnod MBS: MBS-059-24

Diben y swydd:

Swyddogaethau craidd y Senedd yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'r Senedd yn cyflawni ei brif swyddogaethau yn bennaf drwy ei fusnes ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn ac yng nghyfarfodydd y pwyllgorau. Y swyddogaethau hyn yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, trafod a datblygu syniadau polisi, a cheisio gwella cynigion deddfwriaethol, cynigion polisi a chynigion gwariant drwy graffu arnynt.

Bwriad rôl yr Uwch-gynghorydd yw ychwanegu dimensiwn arall at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i Aelodau'r Senedd wrth iddynt ymgymryd â'r gwaith hwn.

Prif ddyletswyddau: 

  • Rhoi cyngor arbenigol fel arbenigwr mewn maes penodol;
  • Rhoi cyngor ar faterion polisi, cyllid a deddfwriaeth gerbron y Senedd, ac unrhyw agwedd arall ar fusnes y Senedd;
  • Canfod materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n berthnasol i fusnes y Senedd, a briffio'r Aelod yn unol â hynny;
  • Cyfrannu at y broses o feddwl am bolisïau a'u cynllunio, gan gynnwys materion sy'n deillio o waith achos yr Aelod neu unrhyw weithgarwch arall yn yr etholaeth neu ranbarth;

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb;
  • Cyfrifoldeb am reoli tîm aml-ddisgybledig o staff sydd â hanes profedig o sicrhau canlyniadau;
  • Gwybodaeth arbenigol mewn maes perthnasol, a phrofiad o ddatblygu polisïau a strategaethau o fewn y maes

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Cymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Janet.Finch-Saunders@senedd.wales 


Dyddiad cau: 4pm, 12 Mawrth 2025
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau