Uwch-gynghorydd i Julie James AS
Ystod cyflog (pro rata): £40,845 - £49,752
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth / Adref
Cyfeirnod MBS: MBS-056-24
Diben y swydd:
Swyddogaethau craidd y Senedd yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'r Senedd yn cyflawni ei brif swyddogaethau yn bennaf drwy ei fusnes ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn ac yng nghyfarfodydd y pwyllgorau. Y swyddogaethau hyn yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, trafod a datblygu syniadau polisi, a cheisio gwella cynigion deddfwriaethol, cynigion polisi a chynigion gwariant drwy graffu arnynt.
Bwriad rôl yr Uwch-gynghorydd yw ychwanegu dimensiwn arall at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i Aelodau'r Senedd wrth iddynt ymgymryd â'r gwaith hwn.
Prif ddyletswyddau:
- Rhoi cyngor arbenigol fel arbenigwr mewn maes penodol;
- Rhoi cyngor ar faterion polisi, cyllid a deddfwriaeth gerbron y Senedd, ac unrhyw agwedd arall ar fusnes y Senedd;
- Canfod materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n berthnasol i fusnes y Senedd, a briffio'r Aelod yn unol â hynny;
- Cyfrannu at y broses o feddwl am bolisïau a'u cynllunio, gan gynnwys materion sy'n deillio o waith achos yr Aelod neu unrhyw weithgarwch arall yn yr etholaeth
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb;
- Cyfrifoldeb am reoli tîm aml-ddisgybledig o staff sydd â hanes profedig o sicrhau canlyniadau;
- Gwybodaeth arbenigol mewn maes perthnasol, a phrofiad o ddatblygu polisïau a strategaethau o fewn y maes;
- Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Cymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol