Cyfle Gwaith: Uwch-reolwr Cyfathredu a Swydog Briffio ar gyfer Grŵp Llafur Cymru
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-136-26
Prif ddyletswyddau:
- Ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau barn a briffiau i'r cyfryngau sy'n cael effaith fawr.
- Cefnogi perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraeth, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
- Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer Grŵp Llafur Cymru.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Profiad o gyfleu pynciau cymhleth mewn iaith ddealladwy.
- Yn meddu ar brofiad sylweddol o dirwedd y cyfryngau gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall