Uwch-swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i Jeremy Miles AS
Ystod Cyflog: £30,520 - £42,811 pro rata
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau Gweithio: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa etholaeth yng Nghastell-nedd a Thŷ Hywel yng Nghaerdydd
Cyfeirnod: MBS-031-24
Pwrpas y Swydd
Rhoi cymorth ymgyrchol, etholaethol a seneddol i’r Aelod o’r Senedd, yn ogystal â chymorth gyda chyhoeddusrwydd yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
- Datblygu strategaeth ymgyrchoedd – nodi cyfleoedd i ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd effeithiol ar draws yr etholaeth, gan hyrwyddo gwaith yr Aelod
- Datblygu a chynnal rhwydweithiau lefel uchel a pherthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol yn yr etholaeth ac yn ehangach
- Llunio deunyddiau ymgyrchoedd o ansawdd dda, adroddiadau rheolaidd a deunyddiau print sy’n hysbysu'r cyhoedd am y gwaith yr Aelod o’r Senedd
- Sefydlu ystod eang o gysylltiadau â’r wasg, y cyfryngau darlledu a’r cyfryngau ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Jeremy.Miles@senedd.cymru
Dyddiad cau: 16:00, 18 Hydref 2024
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau