Cefin Campbell

Cefin Campbell

Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Cyfathrebu i Cefin Campbell AS

Cyhoeddwyd 11/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024   |   Amser darllen munud

Uwch-swyddog Cyfathrebu i Cefin Campbell AS

Ystod Cyflog: £30,520 - £42,811 pro rata

Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau Gweithio: 37

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Caerfyrddin a / neu Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

Cyfeirnod:MBS-037-24

Pwrpas y Swydd

Rheoli gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau i'r Aelod Senedd.

Prif ddyletswyddau

  • Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn gyda’r wasg a'r cyfryngau darlledu ac ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd.
  • Monitro’r cyfryngau yn effeithiol, gan gynnwys sefydliadau print, darlledu ac ar-lein.
  • Cynnal trafodaethau gyda'r Aelod o’r Senedd/ Rheolwr Swyddfa gan roi sylw i unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau.
  • Gwneud gwaith ymchwil ar gyfer datganiadau i'r wasg, datganiadau eraill ac erthyglau i'r cyfryngau, eu paratoi a'u hysgrifennu.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad sylweddol o weithio'n effeithiol yn niwydiant y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu yn y sector cysylltiadau cyhoeddus - yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad o ddatblygu strategaethau cyfathrebu a'u rhoi ar waith, ynghyd â phrofiad o drefnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau.
  • Gwybodaeth am dechnegau o ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg, a dealltwriaeth ohonynt.

Cymwysterau hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Cymhwyster ffurfiol, er enghraifft cymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth.
  • Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Cefin.Campbell@senedd.cymru

Dyddiad cau: 17:00, Dydd Llun 18 Tachwedd 2024

Dyddiad cyfweliad: TBC