Uwch-swyddog Cyfathrebu i Rhys ab Owen AS
Ystod cyflog: (pro rata) £30,520 - £42,811
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos (2 ddiwrnod)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Hybrid
Cyfeirnod: MBS-041-24
Diben y swydd
Rheoli gwaith sy’n gysylltiedig â’r wasg a’r cyfryngau, fel sy'n ofynnol ar gyfer yr Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
- Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
- Rheoli systemau swyddfa’r wasg a monitro dulliau rhyddhau i’r cyfryngau yn effeithiol, o ran y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein er mwyn sicrhau cydgysylltiad effeithiol o fewn y grŵp.
- Cynllunio a datblygu strategaethau, a threfnu ymgyrchoedd y cyfryngau
- Trafod â’r Aelodau o’r Senedd/Rheolwyr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus yn ddelfrydol mewn amgylcheddol wleidyddol neu debyg.
- Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd ar y cyfryngau.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg
- Profiad neu ddealltwriaeth o gyfraith y cyfryngau.
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol
- Dealltwriaeth o gyfraith y cyfryngau Tystiolaeth o gydlynu gwaith tîm i sicrhau bod gwaith yn cael ei gynhyrchu i derfynau amser tyn
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a'r gallu i feithrin perthnasoedd ar draws ffiniau proffesiynol ag aelodau o’r wasg a’r cyfryngau.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol – gyda'r gallu i ysgrifennu a siarad yn glir a chryno a chynhyrchu papurau briffio a hysbysiadau i'r wasg, gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG, gan gynnwys rhaglenni Microsoft Word, Outlook ac Excel, a chyhoeddi ar bob platfform, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol
- Gweithio'n rhagweithiol gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl;
- Y gallu i achub y blaen, esgor ar syniadau a chyfathrebu eitemau newyddion yn effeithiol;
Dymunol
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru
- Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
- Yn arddel amcanion a gwerthoedd y blaid
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â nichola.ryan@senedd.wales
Dyddiad cau: 17:00, 06 Ionawr 2025
Dyddiad cyfweliad: i'w cadarnhau