Cyfle Gwaith: Uwch Swyddog Digidol ar gyfer Grŵp Llafur Cymru
Ystod cyflog (pro rata):£39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-135-26
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu digidol sy'n cyd-fynd â
blaenoriaethau gwleidyddol Grŵp Llafur Cymru. - Gosod y naws a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau
cymdeithasol. - Goruchwylio’r gwaith o lunio cylchlythyrau, blogiau a chynnwys y wefan.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r
Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd
(safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a
chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a
chydweithwyr ar y materion hyn. - Yn meddu ar brofiad sylweddol o dirwedd y cyfryngau digidol gan ddefnyddio'r
arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol
mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau. - Profiad o gynghori a datgan o ran camau gweithredu ar y cyfryngau cymdeithasol
ar lefel uwch, a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall