Cyfle Gwaith: Uwch Swyddog Gyfathrebu ar gyfer Elin Jones AS, Kerry Ferguson AS and Anna Nicholl AS

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/09/2026

Cyfle Gwaith: Uwch Swyddog Gyfathrebu ar gyfer Elin Jones AS, Kerry Ferguson AS and Anna Nicholl AS

Ystod cyflog (pro rata): £39.274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos i gyd – yn gweithio 12.33 awr i Elin Jones AS, 12.33 awr i Anna Nicholl AS, a 12.33 awr i Kerry Ferguson AS. 

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth (Hwlffordd neu Aberystwyth)
Cyfeirnod: MBS-156-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod. 
  • Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr a darlledwyr.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
  • Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer yr Aelod.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar arhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
  • Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd aelod.

Cymhwysterau hanfodol:

  • Oleiaf gradd israddedig, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu 
    brofiad addas arall. 

Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 37 awr yr wythnos (12.33 awr yr un) .  Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng sawl Aelodau. Yn ogystal â Kerry Ferguson AS, yr Aelod arall o'i blaid a allai benodi i'r rôl hon yw Elin Jones AS ac Anna Nicholl AS.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Branwen.Davies@senedd.wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Branwen.Davies@senedd.waleserbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 21 Medi 2026, 13:00

Dyddiad cyfweliad: 24 neu 25 Medi 2026