Cyfle Gwaith: Uwch Swyddog Gyfathrebu ar gyfer Elin Jones, Kerry Ferguson and Anna Nicholl
Ystod cyflog (pro rata): £39.274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth (Hwlffordd neu Aberystwyth)
Cyfeirnod: MBS-156-26
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
- Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
- Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer yr Aelod.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar arhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
- Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
Cymhwysterau hanfodol:
- Oleiaf gradd israddedig, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
brofiad addas arall.