Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Ymchwil a Chaffu ar gyfer Grŵp Llafur Cymru
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel ac o gartref
Cyfeirnod: MBS-137-26
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal ymchwil fanwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio cwestiynau, gwelliannau, areithiau a chynigion yn y Senedd.
- Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth.
- Cefnogi staff Cyfathrebu i ddrafftio datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac allgymorth cyhoeddus.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gallu cadarn i bwyso a mesur materion, a dealltwriaeth dda o’r hyn y mae’n ei olygu i weithio mewn amgylchedd sensitif.
- Sgiliau dadansoddi rhagorol, gan gynnwys y gallu i grynhoi amrywiaeth eang o safbwyntiau yn gywir a'r gallu i nodi materion o bwys yn gyflym o amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth.
- Lefel uchel o hyfedredd ym maes TGCh er mwyn lleoli, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio Word ac Excel.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.