Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Ymchwil a Chraffu ar gyfer Grŵp Llafur Cymru

Cyhoeddwyd 20/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/08/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Ymchwil a Chraffu ar gyfer Grŵp Llafur Cymru

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel – ar y safle ddydd Mawrth a dydd Mercher, gyda dewis o weithio o gartref weddill yr wythnos.
Cyfeirnod: MBS-155-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal ymchwil fanwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
  • Drafftio cwestiynau, gwelliannau, areithiau a chynigion yn y Senedd.
  • Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil neu friffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Haf.Davies@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Haf.Davies@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 27 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau