Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Ymchwil ar gyfer Natasha Asghar AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 7.4 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol hyd at fis Mehefin 2026
Lleoliad: Swyddfa etholaethol yng Nghasnewydd
Cyfeirnod: MBS-042-25
Diben y swydd:
Darparu gwasanaethau ymchwil o safon uchel i’r Aelod ar amrywiaeth eang o bynciau, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Cymryd cyfrifoldeb unigol dros ddarparu gwaith ymchwil a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau
- Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod i ymdrin â gwaith achos etholaethol neu helpu i lywio dadleuon.
- Darparu gwaith ymchwil o ansawdd uchel mewn ymateb i ymholiadau, yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
- Darparu gwaith ymchwil o ansawdd uchel ar faterion sy'n ymwneud â'i rôl fel Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol a chymryd yr awenau wrth ddatblygu polisïau newydd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
- Profiad o ddarparu briff neu ddeunydd ymchwil mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gyfatebol mewn pwnc perthnasol.