Cyfle Gwaith: Ymchwilydd Grŵp ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-079-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil polisi manwl, yn drafftio papurau briffio ac yn cefnogi gwaith deddfwriaethol. Bydd yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion polisi, yn helpu i lunio strategaethau gwleidyddol, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r Llywodraeth.
- Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
- Cysylltu â melinau trafod, elusennau, grwpiau eiriolaeth a busnesau i gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr.
- Gall oruchwylio neu gydlynu staff ymchwil iau neu interniaid i sicrhau allbwn ymchwil o safon.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf, gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.
- Dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol a phrosesau’r Senedd gan gynnwys gwaith llunio polisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.