Ymchwilydd Grŵp i Grŵp Ceidwadwyr y Senedd.
Wedi cyflogi gan Darren Millar AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod MBS: MBS-057-24
Diben y swydd:
Darparu gwaith ymchwil, cyngor a chymorth gweinyddol o ansawdd uchel i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, gan sicrhau y cynhelir safonau o ran cyfrinachedd.
Prif ddyletswyddau:
-
Cymryd cyfrifoldeb unigol dros ddarparu gwaith ymchwil a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau
-
Darparu briffs a gwybodaeth i gynorthwyo Arweinydd y Grŵp ac Aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig o’r Senedd wrth ymdrin â gwaith achos etholaethol neu helpu i lywio dadleuon
-
Darparu gwaith ymchwil o ansawdd uchel mewn ymateb i ymholiadau, yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth y Staff
-
C
ynnal y safonau uchaf o ran cywirdeb ac amhleidioldeb yn eich gwaith eich hun.
-
Datblygu a defnyddio hunan-gymhelliant er mwyn cynnal annibynniaeth yn eich gwaith eich hun
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
- Profiad o ddarparu briff neu ddeunydd ymchwil mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Davies@senedd.cymru