Jenny Rathbone

Jenny Rathbone

Cyfle Gwaith: Ymchwilydd i Jenny Rathbone AS

Cyhoeddwyd 06/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/01/2025

Ymchwilydd i Jenny Rathbone AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 29 awr yr wythnos 
Natur y penodiad: Parhaol 
Lleoliad: Hybrid ( Tŷ Hywel a Swyddfa Etholaeth, CF24 3NT)
Cyfeirnod MBS: MBS-043-24

Diben y swydd:

Darparu gwasanaethau ymchwil o safon uchel i’r Aelod ar amrywiaeth eang o bynciau, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cynnal.

Prif ddyletswyddau: 

  • Cymryd cyfrifoldeb unigol dros ddarparu gwaith ymchwil a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau.
  • Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod i ymdrin â gwaith achos yr etholaeth neu i helpu i lywio trafodaethau.
  • Darparu gwaith ymchwil o ansawdd uchel mewn ymateb i ymholiadau, yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd.
  • Cynnal y safonau uchaf o gywirdeb a didueddrwydd yn eich gwaith. 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth.
  • Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
  • Profiad o ddarparu deunydd ymchwil neu wybodaeth mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig yng nghyd-destun Canol Caerdydd.
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol:

  • Tystiolaeth o sgiliau dadansoddi da, gan gynnwys y gallu i grynhoi amrywiaeth eang o safbwyntiau yn gywir a'r gallu i nodi materion allweddol yn gyflym o amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth.
  • Sgiliau dadansoddi amlwg sy'n ddigonol i ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau ymchwil, dadansoddi a chanfod ffeithiau.
  • Cyfathrebu yn effeithiol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
  • Tystiolaeth o'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth yn gyflym ac i adnabod y prif faterion perthnasol mewn maes pwnc ble mae gennych beth gwybodaeth arbenigol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Alex.Sims@senedd.cymru 


Dyddiad cau: 17:00, 24 Ionawr 2025
Dyddiad cyfweliad: 6 Chwefror 2025