Ysgrifennydd Gweithredol i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd. Wedi cyflogi gan Darren Millar AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 11.1
Natur y penodiad: Parhaol*
Lleoliad: Abergele, Gogledd Cymru
Cyfeirnod: MBS-068-24
Diben y swydd:
Gweithredu fel Ysgrifennydd Gweithredol i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd a’i Aelodau o’r Senedd. Mae’r tasgau allweddol yn cynnwys trefnu ymweliadau ar gyfer Arweinydd y Grŵp a'r Cabinet Cysgodol, ynghyd â chymorth ysgrifenyddol i’r Grŵp, cyflwyno cynigion a gwelliannau’r Grŵp yn brydlon, a chydlynu busnes y Grŵp.
Prif ddyletswyddau:
- Gweithredu fel Ysgrifennydd i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, gan gynnwys cyhoeddi agendâu, cymryd cofnodion a dilyn pwyntiau gweithredu y cytunwyd arnynt.
- Gweithio’n agos gyda Swyddfa'r Prif Chwip er mwyn sicrhau bod dogfennau sy'n ymwneud â threfniadau pleidleisio a’r Cyfarfod Llawn yn cael eu hanfon allan yn brydlon at aelodau'r grŵp.
- Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion, gan sicrhau bod yr holl gamau gweithredu y cytunir arnynt yn cael eu cwblhau.
- Trefnu ymweliadau ar gyfer Arweinydd y Grŵp ac Aelodau o’r Senedd, mynd gyda'r Arweinydd a’r Aelodau pan fo angen, a chyfarfod â rhanddeiliaid.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddiaeth Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol.