Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cynorthwyydd Gwaith Achos Etholaethol x2 ar gyfer Art Wright AS
Cyhoeddwyd 18/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2026
Cynorthwyydd Gwaith Achos Etholaethol x2 ar gyfer Art Wright AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,129 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol (2 swydd ar gael)
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol Casnewydd
Cyfeirnod: MBS-233-26
Prif ddyletswyddau:
Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
Cymhwysterau hanfodol:
Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.