Cynorthwyydd Gweinyddol x2 ar gyfer Art Wright AS

Cyhoeddwyd 18/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2026

Cynorthwyydd Gweinyddol x2 ar gyfer Art Wright AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,129 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 18.5 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol (2 swydd ar gael)
Lleoliad: Swyddfa etholaeth 80%, y Senedd 20%
Cyfeirnod: MBS-234-26

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin â negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr, rhanddeiliaid a chyrff llywodraeth.

  • Cefnogi ymchwil ar faterion lleol a pholisïau'r Llywodraeth.

  • Cefnogi'r Aelod i reoli staff ac adnoddau swyddfa yn effeithlon.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Art.Wright-MS@Senedd.Wales

I wneud cais, anfonwch eich cais at Art.Wright-MS@Senedd.Wales  erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 02 Rhagfyr 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC