Dadansoddwr Cyllid Cyhoeddus ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK

Cyhoeddwyd 05/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2026

Dadansoddwr Cyllid Cyhoeddus ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Ty Hywel
Cyfeirnod: MBS-227-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud dadansoddiad ariannol manwl o bolisïau'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau.

  • Monitro ac asesu effaith ariannol deddfwriaeth, papurau, ac ymgynghoriadau

    polisi, gan sicrhau bod yr Aelodau’n cael eu paratoi'n dda.

  • Cefnogi staff Cyfathrebu gyda ffigurau, costau a dadansoddiad economaidd ar

    gyfer datganiadau polisi.

  • Sicrhau bod yr holl allbynnau polisi yn cyd-fynd â nodau gwleidyddol y blaid ac

    anghenion yr etholaeth.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o gostio polisïau/prosiectau neu debyg.

  • Dealltwriaeth o bolisi'r Llywodraeth, deddfwriaeth a'u heffaith ariannol.

  • Ymwybyddiaeth wleidyddol, dealltwriaeth o flaenoriaethau’r pleidiau.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Economeg / Mathemateg neu bwnc tebyg

    neu brofiad amgen addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Tom.Llewelyn@Senedd.Wales

I wneud cais, anfonwch eich cais at Tom.Llewelyn@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 04 Rhagfyr 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC