Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Rheolwr Swyddfa ar gyfer Art Wright AS
Cyhoeddwyd 18/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2026
Rheolwr Swyddfa ar gyfer Art Wright AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Bae Caerdydd 40% Swyddfa'r etholaeth 60%
Cyfeirnod: MBS-232-26
Prif ddyletswyddau:
Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
Sicrhau llywodraethiant da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.
Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng yr Aelod a Chomisiwn y Senedd.
Goruchwylio’r gwaith o reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir, a bod data yn cael eu prosesu a’u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.
Cymhwysterau hanfodol:
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.