Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Elin Jones AS, Kerry Ferguson AS ac Anna Nicholl AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos i gyd – yn gweithio 12.33 awr i Elin Jones AS, 12.33 awr i Anna Nicholl AS, a 12.33 awr i Kerry Ferguson AS.
Natur y penodiad:Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth Sir Benfro (Hwlffordd) neu Geredigion (Aberystwyth).
Cyfeirnod: MBS-157-26
Prif ddyletswyddau:
- Cefnogi’r Uwch Swyddog Cyfathrebu gyda chyswllt â’r cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Profiad o ymateb i sylwadau ac adweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, ac yn unol â strategaeth gyfathrebu'r Aelodau.
- Y gallu i adnabod a chasglu cynnwys da.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.