Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd Polisi ar gyfer Marc Jones a Carrie Harper AS

Cyhoeddwyd 30/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2026

Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd Polisi ar gyfer Marc Jones a Carrie Harper AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos (2 ddiwrnod) wedi'i rannu'n gyfartal rhwng y ddau Aelod.
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis
Lleoliad: Ty Hywel – Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-220-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gweithredu fel y prif gyswllt â’r cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a darlledwyr.

  • Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.

  • Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.

  • Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.

Cymwysterau hanfodol: 

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch Annette.Davies@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Annette.Davies@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 06 Tachwedd 2026, 17:00 

Dyddiad cyfweliad: TBC