Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Paul Rock AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Bae Caerdydd, ac yr etholaeth (Caerdydd Ffynnon Taf)
Cyfeirnod: MBS-210-26
Prif ddyletswyddau:
- Gweithredu fel y prif gyswllt â’r cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Rheoli naws a chynnwys cyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
- Goruchwylio i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfathrebu yn cydymffurfio â rheolau'r Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol gydag Aelodau etholedig o fewn amgylchedd gwleidyddol seneddol (Aelod o’r Senedd, Aelod Seneddol, Aelod o Senedd yr Alban neu rôl gyfatebol).
- Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
- Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a'r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
- Arddel amcanion a gwerthoedd plaid yr Aelod.