Swyddog Cynnwys Digidol ar gyfer Alun Cox AS

Cyhoeddwyd 25/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/11/2026

Swyddog Cynnwys Digidol ar gyfer Alun Cox AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos - 3 diwrnod
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth wedi'i lleoli yn etholaeth Afan Ogwr Rhondda ac Adeilad y Senedd
Cyfeirnod: MBS-253-26

Prif ddyletswyddau:

  • Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.

  • Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Aelod (Twitter/X, Facebook, Instagram, LinkedIn) yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff.

    Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o'r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram a LinkedIn.

  • Profiad o greu cynnwys digidol, yn enwedig cynnwys fideo ffurf fer ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

  • Profiad o ddefnyddio offer dylunio graffig, golygu fideo a chreu cynnwys.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol mewn cyfathrebu, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, ieithoedd neu faes cysylltiedig.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Alun.Cox-AS@Senedd.Cymru

I wneud cais, anfonwch eich cais at Alun.Cox-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 02 Rhagfyr 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC