Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Swyddog Polisi ac Ymchwil x 3 ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Cyhoeddwyd 20/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2026
Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - 42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Ty Hywel, Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-239-26
Tri rôl ar gael
Prif ddyletswyddau:
Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r
Llywodraeth.
Drafftio briffiau, adroddiadau a dadansoddiadau polisi cynhwysfawr.
Nodi tueddiadau a thynnu sylw at faterion allweddol a allai effeithio ar yr etholaeth neu'r agenda wleidyddol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau
a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r
Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau
ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a
chydweithwyr ar y materion hyn.
Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf, gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a
data cymhleth
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda'r gallu amlwg i lunio
adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.
Cymhwysterau hanfodol:
Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn
seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e.
NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a
Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall
addas