Uwch-gynghorwr ar gyfer Cai Parry-Jones AS
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd
Cyfeirnod: MBS-193-26
Prif ddyletswyddau:
Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a
thueddiadau gwleidyddol.
Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y
Senedd.
Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a
grwpiau eiriolaeth. Gweithio gyda gwahanol ddeddfwrfeydd yn y DU.
Drafftio darnau barn, datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y
cyfryngau ac ar gyfer gweithgarwch allgymorth cyhoeddus.
Llunio agenda polisi hirdymor a blaenoriaethau strategol yr Aelod.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys
datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau
a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r
Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau
ehangach a chyffredinol.
Cymhwysterau hanfodol:
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.