cons

cons

Ymchwilydd i'r Grŵp ar gyfer Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig

Cyhoeddwyd 22/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2026

Ymchwilydd i'r Grŵp ar gyfer Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-089-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil polisi manwl, yn drafftio papurau briffio ac yn cefnogi gwaith deddfwriaethol. Bydd yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion polisi, yn helpu i lunio strategaethau gwleidyddol, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r Llywodraeth.
  • Drafftio briffiau, adroddiadau a dadansoddiadau polisi cynhwysfawr.
  • Nodi tueddiadau a thynnu sylw at faterion allweddol a allai effeithio ar yr etholaeth neu'r agenda wleidyddol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf, gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â darren.millar-ms@senedd.wales

Dyddiad cau: 29 Mehefin 2026, 5 yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau