Aelod Anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru
Lleoliad: Cymru
Tâl: £12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, tua 2-3 diwrnod y mis.
Mae Senedd Cymru am benodi Aelod Anweithredol i’r Bwrdd, i gychwyn ym mis Gorffennaf 2025.
Mae gan Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru naw aelod. Bydd pump ohonynt yn aelodau anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd), ynghyd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a thri aelod sy'n gyflogeion Swyddfa Archwilio Cymru. Penodir yr Aelodau Anweithredol gan Senedd Cymru. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn enwebu un aelod-gyflogai, a’r Aelodau Anweithredol sy’n penodi’r ddau arall yn dilyn balot o staff Swyddfa Archwilio Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rol hyn, mae'n bwysig cyfeirio at y meini prawf cymhwysedd yn y briff gwybodaeth i ymgeiswyr ar gyfer y rol hyn.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y ddogfen ‘Gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr’ isod.
Dyddiad cau: 7 Mawrth 2025
chevron_right chevron_right chevron_right