Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau

Cyhoeddwyd 05/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2024

Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau – Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd

Senedd Cymru

Lleoliad: Cymru

Taliad: Gofynnir i ymgeiswyr gynnwys manylion am eu ffi arfaethedig gyda'u cais. 

Y Senedd (sef Senedd Cymru) yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru (ar faterion nad ydynt wedi’u cadw’n ôl i Senedd y DU), i gytuno ar drethi yng Nghymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’n ddeddfwrfa un siambr sy’n cynnwys 60 o Aelodau, a fydd yn cynyddu i 96 o Aelodau yn 2026. Mae’r Senedd yn gyfreithiol ar wahân i Lywodraeth Cymru.

Rydym am benodi ymgeisydd eithriadol yn Gadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd i gymryd lle’r Cadeirydd sydd wedi rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl sawl blwyddyn o wasanaeth gwerthfawr. Ar hyn o bryd, mae Cadeirydd dros dro yn cyflawni’r rôl tra bo’r Cadeirydd newydd yn cael ei benodi.

Mae’r Bwrdd Pensiynau yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau'r Cynllun a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu'r Cynllun.

Fel Cadeirydd, byddwch yn cynnig arweinyddiaeth gref ac yn cynorthwyo’r Bwrdd Pensiynau i gyflawni ei gyfrifoldebau yn unol â Deddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013, Rheolau’r Cynllun a’r Cod Ymarfer ar Lywodraethu a Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o gadeirio byrddau ymddiriedolwyr pensiynau, ynghyd â sgiliau arwain sylweddol, gyda phrofiad o lywodraethu cynlluniau pensiwn galwedigaethol. Bydd hefyd yn gyfarwydd â’r Cod Ymarfer ar Lywodraethu a Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Y gobaith yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau yn y swydd o fis Ionawr 2025. Lefel y cliriad diogelwch ar gyfer y rôl hon yw SC.

Os hoffech gael trafodaeth gychwynnol am y rôl hon, cysylltwch â Donna Davies, Pennaeth y Gwasanaeth Pensiynau, drwy anfon e-bost at Donna.Davies@senedd.cymru neu ffonio 0300 200 6523.

 

Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau - Pecyn Gwybodaeth 2024

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

 

Dyddiad cau: 10:00 22 Tachwedd 2024