Nadyn Prifatrwydd yr Ymchwiliadau (Y Pedwerydd Cynulliad)

Cyhoeddwyd 10/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munud

Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Dilys o 03 Ebrill 2014 i 04 Mai 2016

Gweithio gyda'ch tystiolaeth

Bydd y Cynulliad yn creu copiau caled ac electronig o'r dystiolaeth ysgrifenedig y byddwch yn ei darparu i bwyllgor.  Caiff y copiau eu defnyddio gan Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad yn ystod ymchwiliad y pwyllgor. Caiff pob copi ei storio'n ddiogel, naill ai ar ein rhwydwaith TGCh mewnol neu mewn swyddfeydd diogel.

Nid oes rhaid i bwyllgor dderbyn eich tystiolaeth ysgrifenedig, ac nid oes rhaid i bwyllgor gyhoeddi eich tystiolaeth yn llawn nac unrhyw ran ohoni, hyd yn oed os yw wedi cael ei derbyn. Gall hyn ddigwydd pan fydd cyflwyniad yn hir iawn neu'n cynnwys deunydd yr ydym o'r farn sy'n amhriodol i'w gyhoeddi.

Cyhoeddi a chadw eich tystiolaeth

Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi eich tystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan, sy'n golygu y bydd y dystiolaeth ar gael drwy beiriannau chwilio ar y rhyngrwyd. Caiff y fersiwn gyhoeddedig, electronig o'ch tystiolaeth ei chadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel a gan yr Archifau Cenedlaethol.

Nodwch yn glir yn eich tystiolaeth a ydych yn ei chyflwyno mewn rhinwedd swyddogol neu bersonol. Ar gyfer tystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno:

  • mewn rhinwedd swyddogol (ee fel rhan o'ch swydd neu rôl arall), bydd fersiwn gyhoeddedig eich tystiolaeth yn cynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y caiff y manylion hynny hefyd eu defnyddio mewn cyhoeddiadau eraill neu ddeunydd cyhoeddusrwydd, oni bai eich bod yn datgan yn eich tystiolaeth eich bod yn dymuno dileu'r manylion hynny.

  • mewn rhinwedd bersonol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, ond nid eich manylion cyswllt preifat.

Byddwn yn dileu unrhyw ddata personol arall o fersiwn gyhoeddedig eich tystiolaeth os: a) byddwn o'r farn y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod yn bersonol; a/neu b) byddwn yn cytuno gwneud mewn ymateb i gais gennych chi (gweler isod).

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich tystiolaeth ysgrifenedig, neu ran(nau) ohoni, mewn cyhoeddiadau eraill neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â gwaith y pwyllgor. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dyfynnu o'ch tystiolaeth:

  • mewn adroddiadau pwyllgorau a phapurau eraill sydd ar gael yn gyhoeddus am yr ymchwiliad, a gyhoeddir ar ein gwefan a'u dosbarthu ar ffurf copi caled i bartïon â diddordeb (gyda'r fersiwn electronig yn cael ei chadw ar ein rhwydwaith a gan yr Archifau Cenedlaethol);

  • mewn papurau briffio pwyllgor, nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn, ond sydd yn cael eu dal am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel;

  • ar ein gwefan (sy'n cael ei harchifo am gyfnod amhenodol gan yr Archifau Cenedlaethol);

  • ar sianelau ar-lein eraill (megis Twitter a YouTube) lle caiff gwybodaeth ei chadw a'i phrosesu yn unol â pholisïau preifatrwydd y proseswyr unigol hynny. (Mae polisïau preifatrwydd y proseswyr hynny i'w gweld ar eu gwefannau).

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth arall yn eich tystiolaeth yr ydych o'r farn nad yw'n addas ei datgelu i'r cyhoedd, nodwch yn eich tystiolaeth pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a'r rhesymau pam. Byddwn yn ystyried hynny wrth gyhoeddi tystiolaeth ac wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau am wybodaeth (gweler isod). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o wybodaeth sy'n addas i'w darparu fel tystiolaeth ysgrifenedig, cysylltwch â chlerc y pwyllgor perthnasol yn uniongyrchol.

Caiff pob fersiwn caled neu electronig sydd gan staff Comisiwn y Cynulliad, ar wahân i'r fersiwn electronig cyhoeddedig, eu dinistrio cyn gynted â phosibl ar ôl i'r pwyllgor gwblhau ei ymchwiliad.

Cysylltu â chi

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt (ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel) drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad (hy tan fis Ebrill 2016) fel y gallwn:

  • roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad;

  • gofyn unrhyw gwestiynau dilynol angenrheidiol am eich tystiolaeth;

  • trafod (os yw'n briodol) a fyddai modd i chi ddarparu tystiolaeth (ysgrifenedig neu lafar) ychwanegol;

  • anfon copi o adroddiad y pwyllgor atoch ar ddiwedd yr ymchwiliad, a

  • cysylltu â chi am unrhyw waith dilynol gan y pwyllgor mewn perthynas â'r ymchwiliad.

Ni fyddwn yn cysylltu â chi ynghylch busnes Cynulliad arall sydd tu hwnt i'r ymchwiliad y gwnaethoch gyflwyno tystiolaeth iddo. I gael gwybodaeth am ddilyn busnes arall y Cynulliad a chymryd rhan ynddo, ewch i'n gwefan: www.cynulliadcymru.org

Ceisiadau i'r Cynulliad am wybodaeth

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i wybodaeth, efallai y bydd rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ran ohoni. Fe allai hynny gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi. Byddwn ond yn gwneud hynny os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rheolydd data

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r rheolwr data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data 1998. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu, cysylltwch â chlerc y pwyllgor, a all godi ymholiadau perthnasol gyda Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Cynulliad.