Bil arfaethedig – Bil Addysg Awyr Agored (Cymru): Crynodeb o’r Hysbysiad Preifatrwydd

Cyhoeddwyd 10/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn ar gael hefyd

Sut y bydd dy wybodaeth yn cael ei defnyddio

Comisiwn y Senedd yw rheolwr data y wybodaeth rwyt ti’n ei darparu, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Ein manylion cyswllt

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y ffordd y caiff dy wybodaeth ei defnyddio at y Swyddog Diogelu Data yn: diogelu.data@senedd.cymru
0300 200 6565

Beth rydym ei eisiau gen ti?

Mae Sam Rowlands, sy’n Aelod o’r Senedd, yn cynnal ymgynghoriad ar gynnig am gyfraith newydd yng Nghymru. Rwyt ti’n gallu dweud wrth Sam beth yw dy syniadau drwy:

  • Lenwi holiadur.
  • Chwarae gêm rhaffau ac ysgolion.
  • Tynnu llun am sut rwyt ti’n teimlo pan rwyt ti’n gwneud addysg awyr agored

Pam ydym yn ei chasglu?

Bydd yr holl syniadau ac ymatebion a gasglwn yn helpu Sam i ysgrifennu’r gyfraith newydd. Bydd hefyd yn helpu pobl i ddeall beth allai'r gyfraith newydd ei wneud.

Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?

Bydd y wybodaeth a’r syniadau a roddir gen ti ar gael i Sam Rowlands, a hefyd i’r bobl sy’n gweithio gyda Sam yn y Senedd er mwyn helpu i ysgrifennu’r gyfraith newydd.

A fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â thrydydd partïon, neu’n cael ei chyhoeddi?

Fel arfer byddwn ni’n cyhoeddi’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad ar wefan y Senedd, ond ni fyddem yn cyhoeddi dy enw. Ni fyddwn yn rhannu dy enw nac unrhyw fanylion eraill ag unrhyw drydydd parti arall heb ofyn iti gytuno yn gyntaf.

Tystiolaeth nad yw’n addas i'w datgelu i'r cyhoedd

Os oes rhesymau penodol i ti, rwyt ti hefyd yn gallu gofyn i'r wybodaeth a roddir gael ei chadw'n breifat. Gall hyn fod yr holl wybodaeth neu syniadau y byddi di’n eu hanfon i mewn, neu ddim ond rhannau ohoni. Yn yr achosion hyn, bydd Sam Rowlands a'r rhai sy'n ei helpu yn dal i edrych ar y wybodaeth breifat, ond ni fyddai'n cael ei chyhoeddi.

Ble y bydd y wybodaeth yn cael ei storio?

Bydd y wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth ddomestig. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio dy wybodaeth, gellir darllen datganiad preifatrwydd y cwmni yma.

Am ba hyd y cedwir y wybodaeth?

Bydd unrhyw beth a gyhoeddir yn aros yn y parth cyhoeddus.

Sut y byddwn ni’n cael gwared ar y wybodaeth?

Bydd gwybodaeth nad yw wedi'i chyhoeddi yn cael ei dileu/gwaredu'n ddiogel fel rhan o waith rheolaidd gan staff y Comisiwn i lanhau data ar ddiwedd y Chweched Senedd (a fydd yn dod i ben ym mis Ebrill 2026).

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio dy wybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu inni gasglu, cadw a defnyddio dy wybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu’r data personol rwyt ti’n ei darparu, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

Mae angen prosesu’r data fel rhan o dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd

Data personol categori arbennig

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os rwyt ti’n dewis eu darparu. Diffinnir data personol categori arbennig fel data sy’n cynnwys data sy’n datgelu hil neu darddiad ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data sy’n ymwneud ag iechyd.

Dy hawliau

Fel gwrthrych data, mae gen ti nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio dy wybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan rwyt ti’n gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at dy wybodaeth bersonol dy hunan, a elwir weithiau’n 'gais gwrthrych am wybodaeth'.

Hefyd, mae gen ti hawl i wneud cais gennym:

  • fod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanat ti yn cael ei chywiro (er gwybodaeth, mae gofyn iti roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw newidiadau o ran dy wybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanat ti yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio dy wybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; a
  • bod dy wybodaeth yn cael ei darparu iti neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffet ti arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gen ti o dan ddeddfwriaeth diogelu data, neu ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir dy wybodaeth, mae croeso iti gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Os gwneir cais am wybodaeth dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth rwyt ti’n ei darparu. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Sut i gwyno

Rwyt ti’n gallu cwyno i'r Swyddog Diogelu Data os wyt ti’n anhapus â sut rydyn ni wedi defnyddio dy ddata. Gellir gweld y manylion cyswllt uchod. Os byddi di, yn dilyn cwyn, yn parhau i fod yn anfodlon ar ein hymateb, rwyt ti hefyd yn gallu cwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dyma gyfeiriad y Comisiynydd Gwybodaeth:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow, Cheshire