Nadyn Preifatrwydd Biliau Aelodau (i Mawrth 2018)

Cyhoeddwyd 10/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munudau

Dilys o 21 Chwefror 2018 i 07 Mawrth 2018

Defnyddio'ch ymateb i'r ym​​gynghoriad

Bydd y Cynulliad yn gwneud copïau caled a chopïau electronig o'ch ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch Bil Aelod.

Bydd Aelodau'r Cynulliad (gan gynnwys yr Aeold sy'n gyfrifol am y Bil), staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad yn defnyddio'r copïau hyn wrth ddatblygu'r Bil, wrth hyrwyddo'r effaith y bwriedir iddo'i chael, ac wrth graffu ar y Bil maes o law. Mae'r gwaith prosesu hwn yn angenrheidiol i'n galluogi i gyflawni ein swyddogaethau fel deddwrfa.

Bydd pob copi yn cael ei storio'n ddiogel, naill ai ar ein rhwydwaith TGCh (sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti Microsoft- mae unrhyw ddata a gaiff ei drosglwyddo gan Microsoft y tu allan i'r AEE wedi'i gwmpasu gan gymalau cytundebol sy’n sicrhau bod Microsoft yn trin data personol yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd), neu yn ein swyddfeydd diogel ni.

Nid oes rhaid i Aelod sy'n datblygu Bil dderbyn eich tystiolaeth ysgrifenedig, ac nid oes rhaid i'r Aelod gyhoeddi eich tystiolaeth yn llawn neu'n rhannol, hyd yn oed os yw wedi ei derbyn. Gall hyn ddigwydd pan fydd y dystiolaeth yn hir iawn neu'n cynnwys deunydd sydd, yn ein barn ni, yn amhriodol i'w gyhoeddi.

Cyhoeddi, cadw a ​​defnyddio'ch ymateb i'r ymgynghoriad

Caiff y Cynulliad gyhoeddi eich ymateb i'r ymgynghoriad, yn llawn, ar ein gwefan ac, o ganlyniad bydd, y wybodaeth i'w gweld gan unrhyw un sy'n chwilio amdani ar y rhyngrwyd. Bydd y fersiwn electronig gyhoeddedig, o'ch ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel a chan yr Archifau Cenedlaethol er mwyn cadw cofnod hanesyddol o'r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth.

Gofynnwn ichi nodi'n glir yn eich ymateb i'r ymgynghoriad a ydych yn ei gyflwyno fel rhan o'ch rôl swyddogol ynteu ai ymateb personol ydyw. Yn achos tystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno:

  • fel rhan o'ch rôl swyddogol (ee, fel rhan o'ch swydd neu rôl wyddogol arall), bydd y fersiwn a gyhoeddir yn cynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y caiff y manylion hynny hefyd eu defnyddio mewn cyhoeddiadau eraill neu ddeunydd cyhoeddusrwydd, oni bai'ch bod yn datgan yn eich tystiolaeth eich bod yn dymuno dileu'r manylion hynny.
  • os yw'n ymateb personol, bydd y fersiwn a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, ond nid eich manylion cyswllt preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r fersiwn a gyhoeddir, neu ran ohoni, mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â'r Bil Aelod. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dyfynnu o'ch ymateb:

  • yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil, pan gaiff ei gyflwyno;
  • mewn datganiadau i'r wasg a gyhoeddir er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith y Bil;
  • mewn adroddiadau a phapurau eraill sydd ar gael yn gyhoeddus ac sy'n gysylltiedig â gwaith craffu ar y Bil gan bwyllgor; caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan a'u dosbarthu ar ffurf copi caled i bartïon sydd â diddordeb (gyda'r fersiwn electronig yn cael ei chadw ar ein rhwydwaith a gan yr Archifau Cenedlaethol);
  • mewn papurau briffio pwyllgor nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ond sy'n cael eu cadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel;
  • ar ein gwefan (sy'n cael ei harchifo am gyfnod amhenodol gan yr Archifau Cenedlaethol);
  • ar sianel ar-lein eraill (fel Twitter a YouTube) lle caiff gwybodaeth ei chadw a'i phrosesu'n unol â pholisïau preifatrwydd y proseswyr unigol hynny (mae polisïau preifatrwydd perthnasol y proseswyr hynny i'w gweld ar eu gwefannau).

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth arall yn eich tystiolaeth nad yw, yn eich barn chi, yn addas i'w datgelu i'r cyhoedd, gofynnwn ichi nodi yn eich tystiolaeth pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a'r rhesymau pam. Byddwn yn ystyried hynny wrth gyhoeddi ymatebion i'r ymgynghoriad ac wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau am wybodaeth (gweler isod). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o wybodaeth sy'n addas i'w darparu fel tystiolaeth ysgrifenedig, cysylltwch â'r swyddog perthnasol a enwir yn y ddogfen ymgynghori.

Cysylltu â chi

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt (ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel) drwy gydol y Pumed Cynulliad (hynny yw, tan fis Ebrill 2021) fel y gallwn:

  • roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith o ddatblygu'r Bil;
  • gofyn unrhyw gwestiynau dilynol angenrheidiol am eich ymateb i'r ymgynghoriad;
  • trafod (os yw'n briodol) a ydych yn dymuno cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth lafar wrth i bwyllgor graffu ar y Bil;
  • anfon copi o adroddiad y pwyllgor atoch ar ddiwedd yr ymchwiliad; a
  • chysylltu â chi ynghylch unrhyw waith dilynol gan y pwyllgor yn ystod y broses o graffu ar y Bil.

    Ni fyddwn yn cysylltu â chi i drafod busnes arall y Cynulliad y tu hwnt i'r gwaith o ddatblygu'r Bil Aelod a chraffu arno. I gael gwybodaeth am ddilyn busnes arall y Cynulliad a chymryd rhan ynddo, ewch i'n gwefan: www.cynulliad.cymru/busnes

Ceisiadau am wybodaeth gan y Cynulliad

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i weld gwybodaeth, efallai y bydd yn rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych, neu ran ohoni. Fe allai hynny gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Rheolydd data

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw rheolydd data'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich ha​wliau

Os hoffech:

  • arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth (fel yr hawl i: ofyn i weld eich data’ch hun; neu, mewn rhai amgylchiadau, yr hawl i’w ddiweddaru neu ei gywiro, i wrthod i ni ei ddefnyddio neu i gyfyngu ar ein hawl i’w ddefnyddio);
  • gofyn cwestiwn, neu
  • gwyno am y modd y defnyddiwyd eich gwybodaeth

cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Cynulliad (Alison.Bond@cynulliad.cymru). Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei gwefan, sef www.ico.uk.

Sylwch na fydd modd gorfodi rhai o’r hawliau hyn nes bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn dod yn weithredol yn y DU ar 25 Mai 2018.