Heb gofrestru eto? Bydd angen i ti gofrestru i bleidleisio cyb 19 Ebrill 2021.
Pleidleisio ar 6 Mai 2021
Os wyt ti dros 16 oed ac yn galw Cymru yn gartref, defnyddia dy lais ar 6 Mai 2021 drwy bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd.
ETHOLIADAU’R SENEDD
Beth sy'n digwydd yn Etholiadau’r Senedd?
Mae pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd yn gyfle i ti fynegi dy barn ynghylch pwy sy'n dy gynrychioli ti a dy cymuned yn y Senedd.
Bydd dy bleidlais yn penderfynu pwy fydd yn siarad ar dy ran yn y senedd ac yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bob agwedd o dy fywyd. Mae dy bleidlais hefyd yn penderfynu pa blaid sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.

Pleidleisio 16

Pleidleisio 16
Os wyy ti'n 16 neu’n 17 oed ym mis Mai 2021, galli di bleidleisio, am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd.
Darllena'r holl wybodaeth am ein sesiynau ar-lein a dysga fwy am bleidleisio, dy Senedd ac lawrlwytho y gweithgareddau.
EICH SENEDD CHI
Beth yw rôl y Senedd?
Rydym yn deddfu, yn pennu trethi ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.
Dysga fwy am bwy ydym ni, beth rydyn ni yn ei wneud, a sut gallwch chi sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed yn y Senedd.