Wyt ti'n barod i helpu i ledaenu'r gair am Bleidlais16? Rydyn ni wedi llunio nifer o ddeunyddiau i dy helpu i ledaenu'r gair am Etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw beth arall, cysylltwch â digidol@senedd.cymru
Adnoddau Cyfryngau Cymedeithasol
Cymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol yw'r ffordd hawsaf o helpu i rannu gwybodaeth am Bleidlais 16 a'r etholiad sydd ar ddod. Mae croeso i ti lawrlwytho ein delweddau i'w postio a'u rhannu ar draws dy gyfrifon.
Mae'n hefyd yn bosib i ddefnyddio ein GIFs etholiad yn dy straeon Instagram - chwilia am ‘Pleidlais’ neu ‘Senedd’ i’w cynnwys yn dy straeon!
Ffeindio hi'n anodd i sgwennu rhybweth? Dyma rhai o'n awgrymiadau i'w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol i siarad am Bleidlais16.
- Mae penderfyniadau a wneir yn y Senedd yn effeithio arnat ti a dy dyfodol. Defnyddia dy lais, cofrestra i bleidleisio heddiw.
- Mae dy lais yn bwysig. Os wyt ti'n 16 oed neu'n hŷn, defynddio dy lais ar 6 Mai trwy bleidleisio yn Etholiad y Senedd. Mwy o wybodaeth yma: https://senedd.cymru/pleidlais16
- Am y tro cyntaf yng Nghymru, os wyt ti'n 16 oed neu'n hŷn, dweud dy ddweud ar bwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Dysga'n fwy am hyn, gan gynnwys sut i gofrestru a phleidleisio yma: https://senedd.wales/pleidlais16
Ac mae croeso i ti ddefnyddio a chwilio ein hashnodau hefyd:
#Pleidlais16 #Vote16 Etholiad2021 #Election2021 #EtholiadySenedd #SeneddElection
Adnoddau Addysg Ar-lein
O'r hanes, i'r Aelodau, pwerau, ac etholiadau, mae ein hadnoddau addysg yn ymdrin â phopeth y mae angen i bobl ifanc ei wybod am y Senedd cyn pleidleisio am y tro cyntaf. Mae ein hadnoddau'n dod mewn ystod o fformatau digidol i ti eu defnyddio a'u rhannu.

Ein Senedd
Fel rhan o'n gwaith ar Bleidlais16, rydym wedi cyhoeddi ystod eang o adnoddau ar gyfer ysgolion ac addysgwyr i helpu pobl ifanc i ddysgu mwy am y Senedd a'u hawl i bleidleisio.
Clips Pleidlais 16
Dysgu mwy am y Senedd a phleidleisio gyda'n cyfres o fideos byr. Gellir ymgorffori'r rhain yn dy adnoddau dy hun a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol hefyd.