Pobl y Senedd

Gareth Davies AS

Gareth Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Dyffryn Clwyd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa waith y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i ddarparu bathodynnau glas gydol oes i bobl ag anableddau neu salwch gydol oes wedi'u dilysu?

Wedi'i gyflwyno ar 12/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag iechyd cynyddol wael ymhlith plant?

Wedi'i gyflwyno ar 12/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer fwyaf o gleifion ar restrau aros pediatrig yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 12/07/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau ailgylchu yn Sir Ddinbych?

Wedi'i gyflwyno ar 04/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a’i chais am dystiolaeth ar wneud yr amgylchedd bwyd yng Nghymru yn iachach, gan gynnwys cynigion i gyfyngu a...

Tabled on 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet adolygu'r trothwy o ran incwm uchaf i unigolyn fod yn gymwys i gael cyfrif dysgu personol?

Wedi'i gyflwyno ar 03/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Gareth Davies AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Gareth wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw yn Nyffryn Clwyd. Mae'n awyddus i wella mynediad at ofal iechyd ledled yr etholaeth a sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae Gareth yn eiriolwr cryf dros chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n credu bod chwaraeon tîm yn ffordd o fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yn ogystal â'r argyfwng gordewdra sy’n wynebu ein cenedl.

Hanes personol

Mae Gareth wedi byw yn Nyffryn Clwyd ar hyd ei oes. Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanelwy, yna symudodd i'r Rhyl, ac mae bellach yn byw ym Mhrestatyn gyda'i wraig a'u mab ifanc.

Cefndir proffesiynol

Ers dros ddegawd mae Gareth wedi gweithio i'r GIG, lle y byddai’n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu cyn iddo symud i faes ffisiotherapi.

Arall

Mae Gareth yn Gynghorydd Sir Ddinbych ac yn Gynghorydd Tref dros ward De-orllewin Prestatyn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Gareth Davies AS