Pleidleisio 16

Mae eich llais yn bwysig. Os byddwch yn 16 neu’n 17 mlwydd oed ym mis Mai 2021, byddwch yn cael pleidleisio, am y tro cyntaf, yn etholiadau’r Senedd.

Cofrestru i bleidleisio

Ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio?

Er mwyn pleidleisio yn Etholiad y Senedd, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio erbyn 19 Ebrill 2021.

Dyma'ch cyfle i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli chi yn y Senedd a phwy fydd yn cyflwyno eich llais a'ch barn yn y Senedd.

 

Ynglŷn â’r Senedd

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae’r Senedd yn gweithio?

Dewch i gael gwybod mwy am bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, a sut gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y Senedd.

Beth sy’n digwydd

Digwyddiadau Pleidleisio 16

Dewch i gael gwybod beth sy'n digwydd yn ymgyrch Pleidlais 16 a chadwch eich lle yn ein digwyddiadau ar-lein.

Pethau i'w gwneud

Gweithgareddau Pleidleisio 16

Chwilio am weithgareddau i’w gwneud gyda'ch cyfoedion? Angen ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer sesiynau grŵp ieuenctid neu wersi ar-lein?

Dyma rai syniadau i sbarduno sgwrs am ddemocratiaeth.

Gweld yr holl ddigwyddiadau

#Pleidlais16

Helpu ni i ledaenu'r gair!

Wyt ti'n barod i helpu i ledaenu'r gair am Bleidlais 16?

Rydyn ni wedi llunio nifer o ddeunyddiau i dy helpu i ledaenu'r gair am Etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021.

Cyrchu deunydd Pleidlais 16