Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi'i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd wedi’u cynrychioli yn y Senedd, a chaiff ei gadeirio gan Paul Davies AS.

Mae rhagor o wybodaeth isod am y Pwyllgor, ei aelodau, a’r rhestr o feysydd y mae’n eu trafod.

Gwaith Eraill

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig.

Aelodau'r Pwyllgor