Gwaith sy'n parhau

Craffu ar Gyfrifon

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n gyfrifol am drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i gyflawni swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Aelodau'r Pwyllgor