The next Senedd election is scheduled for 6 May. In recognition of the need to ensure a level playing field for all candidates during the election period, all committee activity will cease with effect from 7 April (except very limited activity in relation to urgent subordinate legislation or the provisions of Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021). New committees are expected to be established before summer 2021.
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Deddfwriaeth Sylfaenol
Biliau a gyflwynir yn y Senedd
Mae cylch gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cynnwys cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 21 a thrafod unrhyw fater arall sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â'r cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys craffu ar Filiau a gyflwynir yn y Senedd.
Mae adroddiadau gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Filiau a gyflwynir yn y Senedd i'w gweld o dan y pennawd 'Adroddiadau Cyhoeddedig' isod.
Cydsyniad Deddfwriaethol
Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad Senedd Cymru cyn y gall basio'r ddeddfwriaeth dan sylw.
Ceir adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o dan ‘Adroddiadau cyhoeddedig’ isod.
Is Deddfwriaeth
Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfau galluogi fel Deddfau gan Senedd Cymru, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth ddirprwyedig hefyd, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd hefydd.
Gwaith eraill
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 15 Mehefin 2016 i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 (ac eithrio Rheol Sefydlog 21.8 i 21.11*) ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad** sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Newidiwyd enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 29 Ionawr 2020 yn dilyn cynnig y cytunwyd arno yn y Senedd. Gweler hefyd adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio teitl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mis Ionawr 2020.
Dylid darllen unrhyw gyfeiriad ar dudalennau gwe'r Senedd, ar Senedd TV neu yn nhrawsgrifiadau cyfarfodydd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad cyn 29 Ionawr 2020 fel cyfeiriad at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diwygiwyd cylch gwaith y Pwyllgor yn dilyn penderfyniadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Medi 2016* a 29 Ionawr 2020**.