Sefydlwyd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan y Senedd i edrych ar bolisïau a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; iechyd, gwasanaethau gofal a gofal cymdeithasol mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Ar ddechrau'r chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor ar ei strategaeth, gan gynnwys ei weledigaeth a'i amcanion sy'n sail i'r holl waith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud. Darllenwch y strategaeth isod.
Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, a’r Cadeirydd yw Buffy Williams AS. Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor oedd Jayne Bryant AS rhwng 29 Mehefin 2021 a 15 Ebrill 2024. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw.