A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llwyddo?

Cyhoeddwyd 13/04/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/04/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i weld a ydynt yn sicrhau’r buddion a fwriedir.

Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut mae'r fframwaith statudol - a sefydlwyd i hyrwyddo cynllunio a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg - yn gweithio.

Dysgwch ragor am yr ymchwiliad.

Yr her o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru – Cymraeg 2050 – yn gosod targedau heriol, gan gynnwys:

  • cynyddu cyfran pob grŵp blwyddyn ysgol sy'n cael addysg Gymraeg o 22 y cant yn 2017 i 30 y cant erbyn 2031, ac yna 40 y cant erbyn 2050, a
  • thrawsnewid sut mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu i’r holl ddysgwyr (gan gynnwys y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy ffrwd), gyda tharged o 70 y cant o ddysgwyr yn nodi erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg adeg gadael yr ysgol.

Beth yw Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg?

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yw’r rhaglen sydd gan awdurdod lleol i wella'r gwaith o gynllunio a datblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal. Dylai'r cynllun hefyd amlinellu sut y bydd yn mynd ati i wella safonau mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac addysgu'r Gymraeg.

Mae'n fecanwaith y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio tuag at amcanion a thargedau cenedlaethol. Yn wreiddiol, roedd cynlluniau ar waith am dair blynedd, ac yn cael eu hadolygu'n flynyddol. Fodd bynnag, oherwydd amcan Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, erbyn hyn mae’r Cynlluniau ar gylch deng mlynedd.

Mae'r targedau'n cyfateb i'r rhai yn strategaeth Cymraeg 2050, a phan gawsant eu cyhoeddi, dywedodd y Gweinidog ar y pryd ei bod yn disgwyl cyrraedd y garreg filltir o 30 y cant o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2032.

Adolygiadau blaenorol o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Adolygwyd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn 2017. Yng nghanfyddiadau allweddol yr adroddiad nodwyd bod angen 'cytuno ar raglen weithgareddau a meini prawf ar lefel awdurdod lleol sy’n cael ei yrru a’i fonitro yn genedlaethol'. Gwnaed cyfanswm o 18 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Creu perthynas mwy agored a heriol rhwng Llywodraeth Cymru a’r holl randdeiliaid ar ddatblygiad y Cynlluniau yn enwedig wrth osod targedau a chytuno ar ddeilliannau.
  • Symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion.
  • Cynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.

Yn dilyn yr adolygiad, sefydlwyd fframwaith rheoleiddio diwygiedig yn 2019. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn 2021 hefyd.

Yn 2015, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bedwaredd Senedd ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Nododd adroddiad y Pwyllgor fod llawer o randdeiliaid wedi'u siomi gan y diffyg effaith a gafodd y Cynlluniau yn ymarferol, er gwaethaf yr optimistiaeth gychwynnol ar ôl eu cyflwyno yn 2012. Roedd pryder cynyddol hefyd nad oedd y Cynlluniau’n ‘addas i'r diben’, ac nad oedd unrhyw beth a glywyd fel rhan o'r ymchwiliad yn ‘awgrymu bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio ddigon’.

Nododd y Pwyllgor ar y pryd nad oedd yn glir sut roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r “gwaith cynllunio a gweithredu gwell” yr oedd ei angen i gyrraedd ei thargedau, a rhybuddiodd y byddai “angen i Weinidogion ymyrryd” pe bai awdurdodau lleol yn methu â chyflawni'r dyletswyddau.

Gwnaeth y Pwyllgor 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • adolygu'r broses ar gyfer newid categori ysgol, gyda'r nod o'i symleiddio;
  • dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddo o dan ddeddfwriaeth bresennol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol; a
  • dylai Llywodraeth Cymru egluro hefyd beth yw'r rhesymau am y diffyg rhwng canran y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o dan y rhaglen Dechrau'n Deg a'i tharged i 25 y cant o blant saith oed gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015 (a 30 y cant erbyn 2020). Dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd yn mynd i'r afael â'r diffyg.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion ar gael yma.

Cafodd y rhan fwyaf o’r argymhellion, os nad pob un ohonynt, eu derbyn neu’n destun gweithredu, er mai dim ond nawr y mae rhai'n dwyn ffrwyth, fel y newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Dweud eich dweud

Ydych chi'n meddwl bod Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llwyddo? Hoffem glywed gennych am eich profiadau. Gallwch hefyd ddysgwch rhagor am yr ymchwiliad, gan gynnwys sut y gallwch chi rannu eich barn â’r Pwyllgor. Mae gennych chi tan 24 Mehefin 2022 i ddweud eich dweud.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad drwy ein dilyn ar Twitter.

Fel rhan o'r ymchwiliad, bydd y Pwyllgor hefyd yn siarad â chynrychiolwyr o blith darparwyr addysg statudol, darparwyr addysg cyn ac ôl-statudol a darparwyr addysg i oedolion, undebau athrawon, arbenigwyr academaidd a grwpiau sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg.